Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-05

Cês newydd ar gyfer Caerdydd

Ces bach llwydCyn mynd i ffwrdd i Brighton a Llundain llynedd fe brynais gês newydd pinc, ond mae'n llawer rhy fawr i fynd i Gaerdydd felly diwedd yr wythnos diwethaf fe es i brynu un newydd yn bewise. Cefais un bychan llwyd ac fe es ati i'w lenwi. Roeddwn i'n poeni yn fawr ei fod yn rhy fach, ond yn raddol fe gymrodd bobeth oedd gen i i'w bacio i fynd gyda fi: 2 bans, 2 bâr o sanau, 2 grys, 1 trowsus, 2 hanes boced, peth i roi trydan mewn ffôn symudol, peth i roi trydan yn ôl mewn batris a 4 batri, 2 lyfr dysgu Iseldireg, 1 llyfr gweddi, brws gwallt, chwistrellyd gwrth-chwys, 1 bagaid o offer ymolchi a siafio, tywel bychan, cerdyn cyfarch, anrheg fechan, 2 CD o gerddoriaeth(Motown classics a Candide gan Bernstein ac 1 CD data ar gyfer y cyflwyniad dwi'n ei roi ddydd Gwener. Roeddwn yn synnu fy mod wedi cael cymaint ynddo. Ddylen i ddim gadael pacio reit i'r funud olaf, ond diolch byth i bopeth fynd yn iawn. Roedd gen i fag ysgwydd bach du ar gyfer y pwrs arian, camera, llyfr nodiadau, pin ysgrifennu, a ffôn symudol.