Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-17

Ddim yn mynd i'r gwaith heddiw

Er 'mod i wedi codi'n fore dwi ddim ar fy ffordd i'r gwaith heddiw. Ond yn hytrach i gyfarfod undeb yn Rhaeadr o bob man. Fel arfer byddwn ni'n cyfarfod mewn adeilad sy'n eiddo i'r Cynulliad Cenedlaethol ar faes y sioe yn Llanelwedd, ond heddiw rydym yn mynd i gyfarfod yn y YMCA yn Rhaeadr, sef Neuadd Dolgerddon. Dwi'n edrych ymlaen.